Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd, A'i chwys fel defnynau o waed, Aredig ar gefen mor hardd, A'i daraw â chleddyf ei Dad; Ei arwain i Galfari fryn, A'i hoelio wrth groesbren o'i fodd, Fa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? Wrth gofio am goron ddrain, Fe folir am finegr sur; Fe genir am bicell mor fain, Clodforir am hoelion o ddur: Bydd anthem yn dechrau o hyd I Brynwr y byd yn ddi-boen, Gan saint a seraffiaid ynghyd, Yn bloeddio mai teilwng yw'r Oen. Cyflawnwyd y gyfraith i gyd, Fe ddofwyd ei llid heb fy lladd; Cyfiawnder, wrth hir ofyn Iawn, Ei daliad yn gyflawn a gadd; Cyfiawnder a'r gyfraith sy'n awr Yn edrych i lawr yn ddi-lid; Mae'r priodolaethau mewn hedd Yn gweiddi "Trugaredd" i gyd. Caed ffynnon o ddŵr ac o waed I olchi rhai duon eu lliw, Ei ffrydiau a redodd yn rhad I'r ardal lle'r oeddwn yn byw; Er cymaint o rwystrau gadd hon, Grym arfaeth a'i gyrrodd ymlaen, I olchi ty Ddafydd o'r bron, Jeriwsalem hefyd ddaw'n lân. A'i chwys :: Ei chwys gefen mor :: gefn oedd mor A'i daro :: Ei daraw am hyn? :: am hyn! na thodd? :: na thodd!
1-2: Thomas Lewis 1759-1842 - - - - - Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd, Ei chwys fel defnynnau o waed, Aredig ar gefn mor hardd, A'i daro gan erchyll law brad, Ei arwain i Galfari fryn, A'i hoelio ar groesbren o'i fodd - Pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? Fy Iesu, 'r wy'n gweled dy lun Yn rhoddi dy einioes i lawr; O! tyred i'r golwg dy hun, Gad imi dy weled yn awr; Pan welais di gynt wrth dy fwrdd, Diangfa a ges ynot ti; Tywyllwch a giliodd i ffwrdd, Pob peth oedd yn oleu i mi. Anianol synwyrau bob rhyw, Mae hyn yn ddirgelwch i chwi, Ffydd newydd-anenig o Dduw Eglura y cwbl i mi - Try'r bara yn Fara sy'n rho'i I'm henaid i fywyd o hyd, Mi wn fod ei fwyta yn troi Fy natur yn fywyd i gyd. Y nerth a'r anrhydedd a'r clod, Y moliant a'r parch yn gytûn, O'r nefoedd i'r ddaear gaiff fod Yn gyfan i'm Harglwydd ei hun; Aed sŵn ei farwolaeth i maes, O'r dwyrain lluosog i'r de, Helaethed terfynau ei ras, Mor bell ag y cyrraedd y ne'.1 : Thomas Lewis 1759-1842 2-3: Nathaniel Cynhafal Jones 1832-1905 4 : William Williams 1717-91
Tonau [8888D]: gwelir: Caed ffynnon o ddŵr ac o waed Cyflawnwyd y gyfraith i gyd Datguddiwyd dirgelion i maes 'Does mesur amseroedd byth fry Fy Iesu 'r wy'n gweled dy lun Mor.html O gariad O gariad mor rhad Pa feddwl pa 'madrodd pa ddawn? Pechadur fy Arglwydd a'i gŵyr Yn Sïon mae cyfraith ragorol |
While remembering his groans in the garden, And his sweat like drops of blood, Ploughed on the back so beautiful, And his stroke with his Father's sword; His leading to Calvary hill, And his willingly being nailed to the wooden cross, What tongue can keep quiet about this? What heart so hard that it not melt? While remembering a crown of thorns, He is to be praised for the sour vinegar; He is to be sung for the spear so sharp, He is to be extolled for the nails of steel: An anthem will be starting always To the Redeemer of the world painlessly, Together with saints and seraphim, Shouting that worthy is the Lamb. Fulfilled was the law altogether, His wrath was tamed without killing me; Righteousness, while long demanding Satisfaction, Its payment in full it got; Righteousness and the law which are now Looking down without anger; The attributes are in peace Praying "Mercy" altogether. There is a fountain of water and of blood. To wash those black their colour; Its streams which ran freely To the region where I was living: Although there were so many obstacles there, A force of purpose drove it on, To wash the house of David completely, Jerusalem also becoming clean. And his sweat :: His sweat back so :: back that was so And his stroke :: His stroke about this! :: am about this! that it not melt? :: that it not melt!
- - - - - While remembering his groans in the garden, His sweat like drops of blood, The ploughing of his back so beautiful, And his striking by the hideous hand of treachery, His being led to Calvary hill, And his willingly being nailed to the wooden cross - What tongue can be silent about this? What heart so hard as not to melt? My Jesus, I am seeing thy image Laying thy life down; O come to view thyself! Let me see thee now; When I saw thee before at thy table, An escape I got in thee; Darkness retreated away, Everything was light to me. Natural senses of every kind, These are a secret to you, Faith newly-born from God Explain thou the whole to me - The bread turns into Bread which is giving To my soul to live always, I know that eating it turns My nature all into life. The strength and the honour and the esteem, The praise and the reverence in agreement, From the heavens to the earth shall be Entirely to my Lord himself; Let the sound of his death go forth, From the numerous east to the south, Let the boundaries of his grace extend, As far as to reach heaven.tr. 2010,19 Richard B Gillion |
Gethsem'ne! the vision I see! - His blood-sweat bedewing his face, My Saviour - the Sinless - 'tis He, His head, bowed with woe, in my place; I follow to Calvary's height, "'Tis finished!" He cries - loving deed! What tongue but will tell it with might? What heart, yea so hard, but will bleed?tr. Peter Edwards 1854-1934 Cân a Mawl / Song and Praise 1918 Tune [8888D]: Rhyl (J Ambrose Lloyd 1815-74) |